eisteddfod2007

 

Sut i gyrraedd

Page history last edited by Rhys 2 yrs ago

Sut i gyrraedd / How to arrive

 

[wedi'w gymerydd o ddogfen PDF o wefan Cyngor Sir y Fflint]

[taken from a 'How to get there' (PDF) on Flintshire County Council's Eisteddfod web page]

 

Lleoliad: Cynhelir yr Eisteddfod yn ysblander ystâd Pentrehobyn, filltir union o ganol tref yr Wyddgrug [map].

 

Mewn Car

 

Bydd y brif fynedfa i faes yr Eisteddfod oddi ar y B5444, Hen Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug.

Wrth ddod mewn car, a fyddech gystal â mynd ar hyd y ffyrdd a ganlyn:

 

O’r De Orllewin a Chanolbarth Cymru

A494 Dolgellau i’r Bala hyd at yr A5 yng Nghorwen.

Cymryd yr A494 i Rhuthun a dilyn yr arwyddion i’r Wyddgrug ac ymlaen at safle’r Eisteddfod.

 

O’r De Ddwyrain a De Cymru

Dilyn yr A483 i Groesoswallt ac yna i Wrecsam.

Cymryd yr A541 i gyfeiriad Yr Wyddgrug a dilyn yr arwyddion at safle’r Eisteddfod.

Dilyn yr A5 i’r Amwythig ac ymuno âr A483 yng Nghroesoswallt. Dilyn yr A483 i Wrecsam, cymryd yr

A541 i gyfeiriad Yr Wyddgrug a dilyn yr arwyddion at safle’r Eisteddfod.

 

O’r Gogledd Orllewin (Môn, Gwynedd a Chonwy)

Dilyn yr A55, hyd at gyffordd 33 wrth Llaneurgain.

Cymryd yr A5119 i’r Wyddgrug ac ymlaen i’r A494 (cylchfan New Brighton) a dilyn yr arwyddion at

safle’r Eisteddfod.

 

O’r Gogledd Ddwyrain

Dilyn yr M56/M53 i’r A55, (Ffordd Osgoi Ddeheuol Caer). Parhau ar yr A55 i Gyfnewidfa Ewlo a

chymryd cyffordd 33b a’r A494 i’r Wyddgrug.

Dilyn, yr A494 trwy Alltami i gylchfan New Brighton a dilyn yr arwyddion at safle’r Eisteddfod.

 

Parcio: Am ddim ym meysydd parcio safle’r Eisteddfod.

 

 

Ar y Bws

 

O Gaer

Mae bysiau yn rhedeg o Orsaf Drenau Caer i Orsaf Fysiau’r Wyddgrug bob 10 munud o 0600 tan 1800.

Mae bysiau‘n rhedeg gyda’r hwyr bob 30 munud tan 2230. Ar Ddydd Sul mae bysiau‘n rhedeg bob 30

munud yn ystod y dydd a phob awr gyda’r hwyr tan 2200.

 

O Wrecsam

Mae dau fws yn rhedeg bob awr o Orsaf Fysiau Wrecsam i Orsaf Fysiau’r Wyddgrug yn ystod y dydd.

Mae bysiau’n rhedeg yn llai aml gyda’r hwyr ac ar y Sul. Mae Gorsaf Fysiau Wrecsam tua wyth munud

o waith cerdded o’r Orsaf Drenau.

 

O’r Fflint

Mae bysiau’n cysylltu Gorsaf Drenau’r Fflint a Gorsaf Fysiau’r Wyddgrug bob awr yn ystod y dydd. Mae

bysiau’n rhedeg yn llai aml gyda’r hwyr ac nid oes bysiau ar y Sul.

 

 

Ar y Trên

 

Mae’r Gorsafoedd Trenau agosaf yn y Fflint, Wrecsam a Chaer. Ewch i www.arrivatrainswales.co.uk i weld amserau’r trenau.

 

 

Bws Gwennol

 

Gwasanaeth bws di-dâl fydd Bws Gwennol a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint yn ystod wythnos yr Eisteddfod o Orsaf

Fysiau’r Wyddgrug yng nghanol y dref i safle’r Eisteddfod. Bydd y gwasanaeth yn rhedeg bob 20 munud o 0900 - 1800

ac yna bob 30 munud tan 2300.  Ar ôl 1800 bydd y bws hefyd yn galw yng Nghlwyd Theatr Cymru.

Comments (0)

You don't have permission to comment on this page.